Y Cwmni

Sefydlwyd Cymen ym 1987 ac rydym yn un o’r cwmnïau cyfieithu mwyaf blaengar ac arloesol yng Nghymru. Rydym wedi meithrin enw rhagorol am safon, cywirdeb a phrydlondeb y gwaith a ddarparwn. Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg, yn ogystal â gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Mae gennym dros 25 mlynedd o brofiad sy'n ein gwneud yn gwmni blaenllaw yn ein maes. 

 

Gall ein tîm o gyfieithwyr profiadol ddelio â swmp mawr o waith cyfieithu drwy gydol y flwyddyn ac rydym bob amser ar gael ben arall y lein yn ystod oriau swyddfa. Byddwn bob amser yn trafod amserlenni gyda chwsmeriaid ac wnawn ni ddim addo dim byd na allwn ei gyflawni. Rydym yn anelu at wella’n barhaus drwy loywi sgiliau staff a diweddaru offer swyddfa yn rheolaidd. Lleolir y swyddfa yng Nghaernarfon, sy’n un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg. Mae hyn yn fantais wych i ni fel cwmni cyfieithu yng Nghymru, gan ein helpu i gynnig gwasanaeth cyfieithu o'r radd flaenaf.

 

Yn 2007, llwyddodd Cymen i gyflawni achrediad ISO 9001:2000 ym maes sicrhau ansawdd. Sylweddolwn mai cywirdeb o ran iaith a chynnwys yw prif hanfod cyfieithu, a dyma sy'n ein gwneud yn dîm cyfieithu mor uchel ein parch. Mae’r ardystiad hwn yn warant i’n cwsmeriaid bod gan Cymen systemau a gweithdrefnau ansawdd ysgrifenedig sy’n bodloni safonau a disgwyliadau byd-eang. Mae’r safon hon hefyd yn tawelu meddwl cwsmeriaid ein bod yn gweithio tuag at wella yn barhaus.

 

Rydym hefyd yn aelodau brwd o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn ogystal â Chymdeithas y Cwmnïau Cyfieithu (ATC)

 

Mae profiad Cymen fel cwmni cyfieithu sydd wedi ei hen sefydlu yng Nghymru yn rhoi cyfle i ni ddarparu gwasanaeth cyfieithu blaenllaw y mae ein holl gwsmeriaid yn ei werthfawrogi, a gallwn sicrhau cyfieithiad o'r safon uchaf bob amser.

 

Bydd swyddfa Cymen ar gau rhwng 29ain Mawrth a 1af Ebrill. Hoffwn ddymuno Pasg Hapus i holl gwsmeriaid a chyfeillion Cymen.

Polisi Amgylcheddol

Gallwch ddarllen ein Polisi Amgylcheddol yma:

Polisi_Amgylcheddol

Cais am waith
Cyfieithu Testun
 

Cliciwch isod i holi am fwy o wybodaeth ynghylch cyfieithu testun

Cais am wasanaeth
Cyfieithu ar y Pryd


Cliciwch isod i holi am fwy o wybodaeth ynghylch cyfieithu ar y pryd

Cylchlythyr

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr y cwmni
  1.  
  2.  
  3.    
designed & hosted by WiSS